Cerrig wedi cael eu dwyn o eglwys yng Nghasnewydd
- Cyhoeddwyd
Mae lladron wedi dwyn 16 o gerrig palmant a allai fod bron 150 o flynyddoedd oed o du allan i eglwys yng Nghasnewydd.
Yn ôl Heddlu Gwent, dygwyd y cerrig yn gynnar ddydd Gwener o Eglwys San Marc.
Yn dilyn y lladrad o fynedfa'r tŵr mae iard yr eglwys wedi cael ei chau i'r cyhoedd oherwydd tir anwastad.
Credir fod y cerrig sydd wedi'u dwyn yn werth rhwng £500 a £600 ac mae'n debygol y bydd gweddill y cerrig yn cael eu tynnu oddi yno.
"Rywbryd yn gynnar fore Gwener fe ddaeth rhywrai i mewn i iard yr eglwys a symud 16 o gerrig palmant o du allan i'r tŵr," meddai'r Canon Andrew Willie.
Ychwanegodd ei fod yn gobeithio cael caniatâd i symud gweddill y cerrig a'u cadw fel bod tarmac yn cael ei osod, "ateb cyflym ... a thipyn yn rhatach nac ailosod cerrig palmant newydd."
Dywedodd llefarydd ar ran yr heddlu fod swyddogion wedi'u galw am 1pm ddydd Gwener. Cafodd y cerrig eu dwyn rhwng 2am a 12:45pm.
Dylai unrhyw un â gwybodaeth gysylltu â Heddlu Gwent ar 101.
Straeon perthnasol
- 1 Chwefror 2005