Caerfaddon 3-2 Casnewydd

Fe wnaeth Caerfaddon, sydd ar waelod Cyngrair Blue Square Bet, sicrhau eu trydedd fuddugoliaeth o'r tymor yn erbyn Casnewydd nos Fawrth.

Nat Jarvis roddodd yr ymwelwyr ar y blaen, trwy rwydo ar ôl i ergyd Adam Hughes daro'r postyn.

Ond wedyn fe wnaeth Caerfaddon sgorio ddwywaith o fewn saith munud.

Scott Murray sicrhaodd y fuddugoliaeth cyn i beniad Gary Warren gael gôl gysur.

Mae Casnewydd nawr wedi ennill ddwywaith yn unig mewn 10 gêm yn y gynghrair.

Cysylltiadau Rhyngrwyd

Dyw'r BBC ddim yn gyfrifol am safleoedd rhyngrwyd allanol.