Llofrudd Antigua'n trywanu carcharor

Kaniel Martin Image copyright PA
Image caption Roedd Kaniel Martin yn un o ddau a garcharwyd am ladd Ben a Catherine Mullany

Dywedodd Heddlu Antigua fod dyn a garcharwyd am oes am ladd cwpwl o Gymru wedi trywanu carcharor arall.

Roedd Kaniel Martin yn un o ddau a gafwyd yn euog ym mis Gorffennaf o lofruddio Ben a Catherine Mullany o Bontardawe.

Cafodd ei ddedfrydu ym mis Rhagfyr i dair dedfryd o garchar am oes.

Dywedodd Sarjant William Holder o Heddlu Brenhinol Antigua a Barbuda fod Martin wedi defnyddio teclyn miniog i drywanu dyn arall.

'Trosedd ddifrifol'

"Roedd digwyddiad yn y carchar ddydd Gwener, ac mae ymchwiliad iddo'n parhau," meddai.

"Am tua 6:30am, cafodd carcharor ei drywanu gan Kaniel Martin. Mae'n drosedd ddifrifol, ac mae'r heddlu'n delio gyda'r mater."

Mae'r dyn 21 oed gafodd ei drywanu yn cael triniaeth yn yr ysbyty am anafiadau difrifol, ond sydd ddim yn peryglu ei fywyd.

Mewn llys ym mis Gorffennaf, cafwyd Martin ac Avie Howell yn euog o ladd Ben a Catherine Mullany, oedd ar eu mis mel ar yr ynys, ynghyd â Woneta Anderson - siopwraig leol.

Mae Martin a Howell yn disgwyl sefyll eu prawf yn ddiweddarach eleni ar gyhuddiad o ladd dau berson arall.

Straeon perthnasol