BBC Cymru Fyw

Uwchgyngrhair: Diwrnod olaf cyffrous?

Published
image copyrightNot Specified

Mae Uwchgynghrair Pêl-droed Cymru wedi cyhoeddi trefn y gemau ar gyfer y timau oedd yn hanner ucha'r tabl ar ddiwedd cyfnod cynta'r tymor.

Mae'r rhestr yn un dros dro, gan fod rhai gemau sydd eto i'w chwarae, ond fe fydd gêm ola'r tymor unwaith eto'n gweld y pencampwyr, Bangor, yn herio'r Seintiau Newydd.

Yn y gêm gyfatebol y tymor diwethaf y cipiodd Bangor y bencampwriaeth gyda buddugoliaeth ar gae Ffordd Farrar o 1-0.

Dywedodd yr Uwchgynghrair y bydd trefn y gemau ar gyfer hanner isa'r tabl yn cael eu cyhoeddi'n ddiweddarach gan fod nifer o gemau ar ôl i'w chwarae yno.

Ar gyfer y gemau sy'n weddill, mae'r clybiau'n cael eu hannog i chwarae naill ai ar nos Wener neu ar brynhawn Sul ar wahân i'r gemau fydd yn cael eu dewis i gael eu darlledu'n fyw ar S4C.

Ond fe fydd y gemau olaf - allai benderfynu tynged y bencampwriaeth unwaith eto - i gyd yn cael eu chwarae ar Sadwrn ola'r tymor, sef Ebrill 21.

Amserlen

Mae'n bosib i ddyddiadau gemau Castell-nedd a Llanelli newid gan y gallai safleoedd y ddau glwb newid gyda'r canlyniadau sydd eto i ddod, ond ar y rhestr fel ag y mae hi, dyma fydd trefn y gemau:-

Chwefror 3-5:

Bala v. Llanelli;

Bangor v. Prestatyn;

Seintiau Newydd v. Castell-nedd.

Chwefror 10-12:

Llanelli v. Bangor;

Castell-nedd v. Bala;

Prestatyn v. Seintiau Newydd.

Chwefror 17-19:

Bala v. Bangor;

Llanelli v. Seintiau Newydd;

Castell-nedd v. Prestatyn.

Mawrth 2-4:

Bangor v. Castell-nedd;

Prestatyn v. Llanelli;

Seintiau Newydd v. Bala.

Mawrth 9-11:

Bala v. Prestatyn;

Bangor v. Seintiau Newydd;

Llanelli v. Castell-nedd.

Mawrth 16-18:

Llanelli v. Bala;

Castell-nedd v. Seintiau Newydd;

Prestatyn v. Bangor.

Mawrth 23-25:

Bala v. Castell-nedd;

Bangor v. Llanelli;

Seintiau Newydd v. Prestatyn.

Ebrill 6-8:

Bangor v. Bala;

Prestatyn v. Castell-nedd;

Seintiau Newydd v. Llanelli.

Ebrill 13-15:

Bala v. Seintiau Newydd;

Llanelli v. Prestatyn;

Castell-nedd v. Bangor.

Dydd Sadwrn, Ebrill 21:

Castell-nedd v. Llanelli;

Prestatyn v. Bala;

Seintiau Newydd v. Bangor.

TABL UWCHGYNGRHAIR CYMRU - Ionawr 4, 2012