Cymro arall gyda Team Sky
- Cyhoeddwyd
Mae Cymro arall ymhlith tîm seiclo Team Sky ar gyfer y tymor i ddod.
Y pencampwr byd Mark Cavendish ddenodd y sylw pennaf wrth i'r tîm roi manylion yr aelodau newydd ddydd Mercher.
Ond un o'r seiclwyr ifanc newydd yn y tîm yw Luke Rowe, 21 oed o Gaerdydd, yn cael ei ystyried yn un o sêr y dyfodol.
Enillodd Bencampwriaeth Ieuenctid Ewrop ddwywaith ac mae wedi bod yn aelod o dîm Rapha Condor ers 2008, ac yn aelod o garfan ddatblygu Olympaidd Prydain.
Roedd yn nawfed yn ras ffordd Gemau'r Gymanwlad yn 2010.
Dwy bencampwriaeth
Bydd Rowe yn ymuno gyda Geraint Thomas fel aelod o Team Sky.
Roedd sôn y byddai Thomas yn mynd i dîm arall ar ddiwedd ras y Tour de France 2011 ond yn fuan wedi'r ras fe arwyddodd gytundeb newydd gyda Sky.
Mae nifer o aelodau'r tîm eisoes wedi dweud eu bod yn bwriadu cystadlu yn y Tour de France eto yn 2012 yn ogystal â'r gemau Olympaidd yn Llundain.
Dim ond chwe diwrnod sydd rhwng diwedd y Tour a dechrau'r gemau ond mae Team Sky - dan arweiniad Cymro arall, Dave Brailsford - yn benderfynol o wneud eu marc yn y ddwy gystadleuaeth.