Gŵyl lenyddol 'fawreddog' yng ngorllewin Cymru

Parc Dinefwr Image copyright Not Specified
Image caption Bydd yr ŵyl ar dir Parc a Chastell Dinefwr rhwng Mehefin 29 a Gorffennaf 1, 2012

Bydd gŵyl newydd yn cael ei chynnal yng ngorllewin Cymru yn ystod haf 2012 gyda'r bwriad, yn ôl y trefnwyr, o "ddathlu'r gorau o'n llenyddiaeth".

Corff Llenyddiaeth Cymru, yr Ymddiriedolaeth Genedlaethol a Phrifysgol Cymru'r Drindod Dewi Sant sy'n trefnu'r ŵyl ddwyieithog fydd yn cael ei chynnal ym Mharc a Chastell Dinefwr rhwng dydd Gwener, Mehefin 29, a dydd Sul, Gorffennaf 1.

Mae Cyngor Celfyddydau Cymru wedi cyfrannu £65,000 at y prosiect.

Dywedodd y trefnwyr y byddai'r digwyddiad yn cynnwys "amrywiaeth eang o lenyddiaeth, cerddoriaeth, comedi, sinema a gweithgareddau i'r plant" a'r gobaith fyddai "efelychu rhai o hoff wyliau Cymru dros y blynyddoedd - Gŵyl y Dyn Gwyrdd, Sesiwn Fawr, y Cnapan - gan wneud i lenyddiaeth yr hyn a wnaed i gerddoriaeth yn y gwyliau hyn."

"Bydd digwyddiadau llenyddol ochr yn ochr â ffurfiau celfyddydol eraill, yng nghanol tirwedd hardd a hanesyddol Parc a Chastell Dinefwr," meddai'r trefnwyr.

'Gwreiddiau dwfn'

Bydd nofelwyr, storïwyr lleol, beirdd cadeiriog a choronog, awduron plant, cyfansoddwyr, cantorion a sgriptwyr yn cyfrannu at yr ŵyl.

Dywedodd y trefnwyr fod "gwreiddiau dwfn" llenyddaieth yn Ninefwr, cartref tywysogion y Deheubarth.

Yn ôl Justin Albert, Cyfarwyddwr yr Ymddiriedolaeth Genedlaethol yng Nghymru: "Mae hwn yn brosiect ac yn bartneriaeth hynod gyffrous i'r mudiad.

"Mae pawb yn hoffi stori dda, barddoniaeth a cherddoriaeth, ac mae traddodiad Cymru yn y meysydd hyn yn rhyfeddol a chyfoethog.

'Sbardun'

"Gan fod Dinefwr yn un o beiriau diwylliant Cymru bydd cynnal gŵyl ar y safle yn sbardun pellach i hybu balchder mewn llenyddiaeth Cymru a llwyddiant cerddorol."

Yn ôl Lleucu Siencyn, Prif Weithredwr Llenyddiaeth Cymru: "Gweledigaeth Llenyddiaeth Cymru yw mynd â llenyddiaeth i bob cwr o Gymru i gynulleidfa mor eang â phosib.

"Mae'r ŵyl newydd yn caniatáu i ni wneud hynny ... bydd 2012 yn flwyddyn wych i lenyddiaeth - ac i'r gorllewin. "

Straeon perthnasol

Cysylltiadau Rhyngrwyd

Dyw'r BBC ddim yn gyfrifol am safleoedd rhyngrwyd allanol.