Damwain: Traffordd yn ailagor

Mae lonydd dwyreiniol yr M4 wedi ailagor wedi gwrthdrawiad rhwng dau gar a lorri.

Roedd y ddamwain am 8:20am rhwng Cyffordd 48 (Yr Hendy) a Chyffordd 49 (Pont Abraham).

Dywedodd y Gwasanaeth Tân eu bod wedi cael galwad a bod gwasnaethau brys eraill yn delio â'r ddamwain.