Gwesty'r Kings yng Nghasnewydd yn cau ar ôl 200 mlynedd
- Cyhoeddwyd
Mae gwesty 200 oed yng nghanol Casnewydd wedi cau a'r perchnogion wedi dweud bod busnes wedi arafu'n "sylweddol".
Fe gaeodd Gwesty'r Kings ei ddrysau ddydd Mawrth wrth i 20 o swyddi parhaol ddiflannu.
Dywedodd y rheolwr cyffredinol, Maria Thomas, fod llond llaw o staff yn cael eu cadw ar y llyfrau.
Roedd cyngherddau yn arfer cael eu cynnal yn y gwesty ar y Stryd Fawr - yn ystod yr 1980au hwyr a'r 1990au cynnar bu Van Morrison yn canu yno a Jerry Lee Lewis.
Yn ôl Ms Thomas, sydd wedi gweithio yn y gwesty ers 20 mlynedd, roedd 'na lai o gwsmeriaid ers y dirwasgiad.
"Dwi ddim yn credu fod yr holl siopau'n cau yng nghanol dinas Casnewydd wedi helpu chwaith," meddai.
"Os ydych chi'n edrych ar wefannau sy'n cyfeirio at y gwesty, mae'r adolygiadau'n dweud bod pobl yn hoffi'r gwesty ond ddim yn hoff o'r ardal."
Ychwanegodd hi fod staff yn ceisio delio â digwyddiadau oedd wedi'u trefnu yn y gwesty, yn enwedig priodasau.
'Llawer o hanes'
"Mae gwestai lleol yn ein helpu ond, yn amlwg, mae'r bobl rydyn ni'n cysylltu â nhw ynglŷn â phriodasau wedi'u siomi," meddai.
"Rydyn ni'n ceisio ein gorau i ddod o hyd i rywle arall iddyn nhw.
"Mae'n drist iawn gan fod y gwesty wedi'i sefydlu ers rhyw 200 mlynedd. Mae 'na lawer o hanes yma a llawer o deuluoedd lleol wedi cynnal digwyddiadau yma am amser hir."
Dechreuodd y gwesty, a arferai gael ei adnabod fel y King's Head, fel tafarn fechan i deithwyr ac ers blynyddoedd daeth yn boblogaidd fel rhywle i gynnal priodasau a chynadleddau.
Mae'r 20 aelod staff yn wynebu cael eu diswyddo a bydd cyfarfod yr wythnos nesa' yn trafod y sefyllfa.
Mae BBC Cymru wedi gofyn i rydd-ddeiliaid y gwesty, cwmni Punch Taverns, am ymateb.