Arteithio anifeiliaid: Saith ar fechnïaeth
- Cyhoeddwyd
Mae saith o ddynion, gafodd eu harestio mewn cysylltiad ag achosion arteithio anifeiliaid yn ardal Y Barri, Bro Morgannwg, wedi cael eu rhyddhau ar fechnïaeth.
Fe gawson nhw eu harestio ar amheuaeth o fyrgleriaeth ac achosi dioddefaint dianghenraid i anifail wedi'i amddiffyn.
Dywedodd Heddlu'r De fod rhywrai wedi torri i mewn i siediau yn rhandir Gibbonsdown a bod cwningod a hwyaid wedi eu llosgi a'u hanafu'n ddifrifol.
Bu'n rhaid difa rhai o'r anifeiliaid.
Mae'r heddlu yn apelio am wybodaeth am y digwyddiad Nos Galan.
Cafodd dwy gwningen un o berchnogion y rhandir, Karen Glover, eu harteithio a bu'n rhaid rhoi Fudge a Cookie i gysgu ar ôl iddyn nhw gael eu hanafu'n ddifrifol.
'Torcalonnus'
Dywedodd Mrs Glover o'r Barri: "Fe gawson nhw eu cymryd Ddydd Calan a'u dychwelyd i'w caets y diwrnod canlynol.
"Fy ngŵr ddaeth o hyd iddyn nhw. Roedd yn arswydus, Cookie wedi'i llosgi'n ofnadwy a chafodd Fudge anafiadau mewnol ar ôl i rywun ei chicio. Bu'n rhaid rhoi'r ddwy i gysgu.
"Mae'n dorcalonnus."
Yn ôl y Ditectif Gwnstabl Mark Cummins: "Rydyn ni'n annog y cyhoedd i gysylltu os oes ganddyn nhw unrhyw wybodaeth allai helpu'r ymchwiliad.
'Ofnadwy'
"Mae hon yn enghraifft ofnadwy o greulondeb - welais i erioed unrhyw beth ar y raddfa yma yn Y Barri yn ystod fy amser fel heddwas."
Dywedodd Miles Punter o Gyngor Bro Morgannwg: "Rydym yn bryderus iawn ynglŷn â natur y digwyddiad atgas hwn a byddwn yn gweithio gyda'r heddlu a pherchnogion y rhandiroedd i adolygu'r mesurau diogelwch ar y safle ar frys," ychwanegodd.
Dylai unrhyw un â gwybodaeth ffonio 101 neu gysylltu â Thaclo'r Tacle ar 0800 555 111.