Colli 20 swydd wrth i westy gau yng nghanol Casnewydd

Gwesty'r Brenin, Casnewydd Image copyright (C) British Broadcasting Corporation
Image caption Mae 20 o bobl wedi colli ei swyddi wedi i Westy'r Brenin gau ddydd Mawrth

Mae gwesty 200 oed yng nghanol Casnewydd wedi cau yn sgil "gostyngiad sylweddol" mewn masnach.

Mae 20 o bobl wedi eu diswyddo wedi i Westy'r Brenin gau ddydd Mawrth.

Dywedodd rheolwr cyffredinol y gwesty, Maria Thomas, fod llond llaw o staff yn dal i weithio a'u bod yn ceisio ail drefnu gwleddoedd priodas.

Bu'r gwesty'n lleoliad poblogaidd ar gyfer cyngherddau pop gan gynnwys cyngherddau gan Jerry Lee Lewis a Van Morrison.

Gwleddoedd priodas

Dywedodd Ms Thomas, sydd wedi gweithio yn y gwesty ers 20 mlynedd, fod y dirwasgiad wedi cael effeithio andwyol ar y busnes.

"Rwy'n credu bod yr holl siopau sydd wedi cau yng nghanol Casnewydd heb helpu ein hachos," meddai.

"Mae ein gwesty yn ymddangos ar wefan ac mae adolygwyr wedi gadael negeseuon yn dweud eu bod yn hoffi'r gwesty ond nad ydyn nhw'n hoffi ei leoliad."

Ychwanegodd Ms Thomas fod staff yn ceisio ail drefnu achlysuron oedd wedi'u trefnu ar gyfer y gwesty gan gynnwys gwleddoedd priodas.

"Mae gwestai lleol yn ein helpu ond mae'r bobl sydd wedi trefnu priodasau yng Ngwesty'r Brenin wedi cael eu cynhyrfu.

"Rydyn ni'n gwneud ein gorau glas i ganfod lleoliad newydd ar gyfer y priodasau.

"Mae hyn yn drist iawn am fod y gwesty wedi bod yn rhan o fywyd Casnewydd am 200 mlynedd."

Dechreuodd y gwesty, a arferai gael ei adnabod fel y King's Head, fel tafarn fechan i deithwyr ac ers blynyddoedd daeth yn boblogaidd fel lleoliad i gynnal priodasau a chynadleddau.

Mae'r 20 aelod staff yn wynebu cael eu diswyddo a bydd cyfarfod yr wythnos nesaf yn trafod y sefyllfa.

Nid oedd rhydd-ddeiliaid y gwesty, cwmni Punch Taverns, am ymateb.

Straeon perthnasol

Cysylltiadau Rhyngrwyd

Dyw'r BBC ddim yn gyfrifol am safleoedd rhyngrwyd allanol.