Treforys: Apelio at archfarchnadoedd
- Cyhoeddwyd
Mae arweinwyr busnes yn Nhreforys wedi ysgrifennu at dri chwmni archfarchnad yn eu hannog i symud i'r ardal wedi i archfarchnad arall yn yr ardal gau yn ddiweddar.
Mae Siambr Fasnach Treforys wedi cysylltu â chwmnïau Tesco, Sainsbury a Morrisons wedi i gwmni Somerfield gau eu harchfarchnad yno ym mis Tachwedd y llynedd.
Dywedodd pennaeth y siambr, Mike Cotton, fod y penderfyniad i gau'r archfarchnad wedi cael effaith andwyol ar fasnach yn yr ardal dros gyfnod y Nadolig.
Ychwanegodd fod siopau annibynnol wedi dibynnu ar y fasnach a gafodd ei greu gan siop Somerfield.
Busnesau annibynnol
Mae rhai trefi yng Nghymru wedi datgan eu gwrthwynebiad cryf i gynlluniau cwmnïau i adeiladu archfarchnadoedd.
Ond honnodd Mr Cotton fod masnachwyr yn Nhreforys yn awyddus i rywun adeiladu archfarchnad yno.
Dywedodd Mr Cotton fod 25 aelod y Siambr Fasnach wedi penderfynu ysgrifennu at y cwmnïau archfarchnad wedi i siop Somerfield gau yn Stryd Woodfield ar Dachwedd 19.
"Bu canol y dref yn wag dros y Nadolig am fod pobl wedi penderfynu siopa mewn ardaloedd eraill.
"Bu llawer o fusnesau annibynnol yn dibynnu ar y fasnach a gafodd ei greu gan siop Somerfield.
"Ym mis Rhagfyr cyhoeddodd Morrisons eu bwriad i agor nifer o siopau bychan.
"Byddai siop o'r fath honno neu Tesco Extra yn berffaith i Dreforys.
"Mae rhai cymunedau yn gwrthwynebu adeiladu archfarchnadoedd yn eu trefi ond rydyn ni am iddyn nhw ddod i Dreforys."
Dywedodd Mr Cotton fod Tesco a Morrisons wedi ymateb i lythyr y Siambr Fasnach gan ddweud eu bod yn ystyried y cynnig.
Straeon perthnasol
- 28 Rhagfyr 2011