Aberystwyth yn colli pwynt
- Cyhoeddwyd
Ffynhonnell y llun, Not Specified
Mae Clwb Pêl-droed Aberystwyth wedi colli un pwynt ar ôl chwarae gyda chwaraewr nad oedd yn gymwys i chware i'r tîm yn Uwchgynghrair Cymru.
Dydi enw'r chwaraewr ddim wedi ei ddatgelu.
Doedd o ddim wedi cael ei gofrestru yn iawn cyn chwarae yn y gêm yn erbyn Llanelli ar Barc Stebonheath ar Hydref 8.
Roedd gan y clwb hawl i apelio i Gymdeithas Bêl-Droed Cymru.
Ond penderfynodd y clwb beidio apelio.
Mae colli pwynt yn golygu bod Aberystwyth wedi gorffen hanner cyntaf y tymor gyda 17 pwynt ac yn ail hanner y tabl.
Collodd Aberystwyth y gêm dan sylw o 2-0 yn erbyn Llanelli.
TABL UWCHGYNGRHAIR CYMRU - Ionawr 4, 2012
Dolenni perthnasol ar y we
Dyw'r BBC ddim yn gyfrifol am gynnwys gwefannau allanol