Chwilio am enillydd £1m ar y loteri o ardal Caerdydd

Logo EuroMillions Image copyright Other
Image caption Mae'r Loteri Genedlaethol yn awyddus i gyflwyno'r arian i'r enillydd ar ddechrau'r flwyddyn newydd

Yn ôl y Loteri Genedlaethol mae 'na docyn enillodd £1 miliwn wedi cael ei brynu yn ardal Caerdydd ar Ragfyr 23.

Does 'na neb wedi hawlio'r arian hyd yma.

Am bob llinell o rifau sy'n cael eu prynu i chwarae'r EuroMillions mae chwaraewyr yn derbyn rhifau ar gyfer y Millionaires Raffle yn awtomatig.

Mae gan berchnogion tocyn rhif FXV864819 tan Fehefin 20 2012 i hawlio'u henillion cyn y bydd yr arian yn mynd at achosion da.

Caiff chwaraewyr eu hannog i edrych ar eu tocynnau ac i chwilio ym mhobman, gan gynnwys "tu ôl i glustogau'r soffa".

'Anhygoel'

"Rydym yn awyddus i ganfod yr enillydd a chyflwyno'r enillion iddyn nhw," meddai llefarydd ar ran y Loteri Cenedlaethol.

"Mae'n wobr anhygoel. Fe all wneud gwahaniaeth enfawr i fywyd rhywun ar ddechrau 2012."

Dywedodd bod y champagne yn barod ar gyfer y dathliad.

"Gwnewch yn siŵr eich bod yn edrych ym mhob bag, pwrs, waled a phoced am y tocyn.

"Croesi bysedd y daw'r enillydd ymlaen i gasglu'r arian."

Os oes unrhyw un yn credu bod ganddyn nhw docyn buddugol ar gyfer unrhyw un o gystadlaethau'r Loteri Cenedlaethol mae angen cysylltu gyda'r cwmni o fewn 180 niwrnod drwy ffonio 0845 910 0000.

Cysylltiadau Rhyngrwyd

Dyw'r BBC ddim yn gyfrifol am safleoedd rhyngrwyd allanol.