Gwrthdrawiad: A483 wedi ei chau
- Cyhoeddwyd
Ffynhonnell y llun, bbc
Mae'r A483 wedi ei chau i'r ddau gyfeiriad yn dilyn gwrthdrawiad ym Mhowys.
Deellir fod car a beiciwr wedi bod mewn gwrthdrawiad ar y briffordd rhwng yr A458 Buttington Cross a'r B4393 Four Crosses.
Cafodd yr holl wasanaethau brys eu galw i'r digwyddiad.
Dywed Heddlu Dyfed Powys nad ydyn nhw mewn sefyllfa i gyhoeddi mwy o fanylion am y digwyddiad ar hyn o bryd, heblaw i ddweud fod tagfeydd hir yn datblygu i yrwyr sy'n teithio rhwng Y Trallwng a Llanymynech.