Bachgen 14 oed wedi marw

Mae Heddlu Dyfed Powys yn apelio am dystion ar ôl i fachgen 14 oed farw wedi gwrthdrawiad rhwng car a beic.

Roedd y gwrthdrawiad ar yr A483 wrth Gyffordd Penrhos rhwng Four Crosses ac Arddlin i'r gogledd o'r Trallwng.

Bu'n rhaid cau'r ffordd am chwe awr wedi'r ddamwain am 4.40pm ddydd Iau, Ionawr 5.

Cafodd yr heddlu eu galw wedi gwrthdrawiad rhwng car Volkswagen Polo du a beic BMX.

"Yn wreiddiol, aed â'r beiciwr 14 oed i Ysbyty Brenhinol Yr Amwythig," meddai'r Sarjant Sean Westlake o Uned Blismona Ffyrdd Canolbarth Cymru.

"Wedyn cafodd ei drosglwyddo i Ysbyty Plant Birmingham."

Dylai unrhyw dystion neu unrhyw un â gwybodaeth ffonio Gorsaf Heddlu'r Drenewydd ar 101 yn lleol.

Straeon perthnasol

Cysylltiadau Rhyngrwyd

Dyw'r BBC ddim yn gyfrifol am safleoedd rhyngrwyd allanol.