Dod o hyd i gorff ar y cledrau

Mae'r Heddlu Trafnidiaeth wedi cael eu galw i orsaf reilffordd ar ôl adroddiadau bod dyn wedi ei daro gan drên.

Cafodd yr heddlu eu galw i Orsaf Cwmbrân ddydd Gwener am 0.04am.

Mewn datganiad dywedodd yr heddlu nad oedden nhw'n trin y farwolaeth fel un amheus.

"Cafodd swyddogion Heddlu Trafnidiaeth Prydain a Heddlu Gwent eu galw," meddai'r datganiad.

"Fe gyrhaeddodd parafeddygon ond fe gyhoeddwyd bod y dyn wedi marw yn y fan a'r lle.

"Rydyn ni'n ceisio adnabod y dyn ac yn ymchwilio i'r amgylchiadau arweiniodd at y ddamwain."

Ychwanegodd y byddai ffeil yn cael ei pharatoi ar gyfer y crwner.

Aialagorodd y lein am 2.34am.

Y trên dan sylw oedd y gwasanaeth 8.30pm rhwng Gorsaf Piccadilly Manceinion a Gorsaf Ganolog Caerdydd.

Cysylltiadau Rhyngrwyd

Dyw'r BBC ddim yn gyfrifol am safleoedd rhyngrwyd allanol.