Rhodd yn hwb i adnewyddu Eglwys Sant Ioan

Plwyfolion tu allan i'r eglwys yn Rhosymedre Image copyright Other
Image caption Y ficer yn derbyn y siec oedd yn werth £17,500

Mae adnewyddu Eglwys Sant Ioan yn Rhosymedre ger Wrecsam wedi dechrau wedi rhodd ariannol.

Cwmni adeiladu Wates gyfrannodd £17,500 wedi i £65,000 eisoes gael ei godi.

Mae'r adnewyddu'n cynnwys tynnu corau cefn a chreu ystafelloedd cyfarfod, cegin a thoiled yn eu lle.

Y nod yw trefnu prosiect iechyd meddwl Anchor Point wedi i'r adnewyddu ddod i ben.

Dywedodd y Parchedig Aidan Coleman, ficer yr eglwys: "Roedd y £17,500 oddi wrth Wates yn ateb gweddi.

"Doedd dim modd i ni godi'r holl arian ein hunain ond mae rhodd y cwmni yn golygu y gallwn ni ddechrau cyfnod cyntaf yr adnewyddu.

"Bydd y gwaith adeiladu wedi'i orffen erbyn mis Mawrth a byddwn wedyn yn dechrau ystyried cyflogi gweithiwr iechyd meddwl ar gyfer y prosiect."

Cysylltiadau Rhyngrwyd

Dyw'r BBC ddim yn gyfrifol am safleoedd rhyngrwyd allanol.