Angladd un o'r ddwy ffrind fu farw wedi damwain yn Llanrug

Sian Gwenllian Lloyd Davies Image copyright Other
Image caption Roedd Sian Gwenllian Lloyd Davies yn 21 oed

Cafodd angladd Sian Gwenllian Lloyd Davies, 21 oed, ei chynnal yn Nant Peris ddydd Sadwrn.

Roedd hi'n un o'r ddwy ffrind ifanc gafodd eu lladd mewn damwain ffordd ar Ddydd Calan yn Llanrug.

Roedd yr angladd yn Eglwys Sant Peris am 11.00am.

Caiff angladd Sasha Danielle Jarvis, 19 oed, ei chynnal yn Eglwys Sant Padarn, Llanberis dydd Llun am 10.30am.

Taro wal

Bu farw'r ddwy wedi i'w car Vauxhall Corsa daro'n erbyn wal yn Llanrug am 6am ddydd Sul Ionawr 1 2012.

Roedd y car yn teithio rhwng Llanberis a Chaernarfon pan darodd yn erbyn wal ger tafarn Glyn Twrog yn y pentref.

Bu farw'r ddwy yn y fan a'r lle.

Dywedodd teulu Sian ei bod hi'n "ferch ifanc brydferth, cariadus a chymdeithasol".

"Roedd Sian wedi cyffwrdd â bywydau cymaint o bobl, hen ac ifanc, gyda'i hysbryd hael a'i hawch am fywyd," meddai datganiad gafodd ei ryddhau ar ran y teulu.

"Er iddi gael bywyd byr, roedd hi wedi byw gyda gwên fawr ar ei hwyneb.

"Hi oedd cannwyll llygad ei theulu a bydd ei cholli yn gadael bwlch enfawr nad oes modd byth ei lenwi."

'Diolchgar'

Dywedodd mam Sian, Jen Davies: "Ddylai'r un rhiant orfod claddu plentyn.

"Mae mor annheg mai Sian yw'r ail blentyn i ni ei golli.

"Yn 1995 fe gollon ni ein merch brydferth, Catrin, oedd ond yn 19 mis.

"Rwyf mor ddiolchgar am y gefnogaeth gref gan fy nheulu arbennig."

Ers y ddamwain mae ffrindiau'r ddwy wedi bod yn gadael blodau gerllaw safle'r ddamwain.

Cafodd y cwest ei agor a'i ohirio gan y Crwner Dewi Pritchard-Jones ddydd Mawrth.

Image copyright (C) British Broadcasting Corporation
Image caption Mae blodau wedi eu gadael wrth safle'r ddamwain

Straeon perthnasol

Cysylltiadau Rhyngrwyd

Dyw'r BBC ddim yn gyfrifol am safleoedd rhyngrwyd allanol.