Gallai James Hook fethu taith ymarfer Cymru
- Cyhoeddwyd
Mae James Hook wedi dweud y gallai fethu gwersyll ymarfer tîm Cymru yng Ngwlad Pwyl cyn pencampwriaeth y Chwe Gwlad.
Mae'r daith yn digwydd wrth i'w glwb, Perpignan, baratoi i wynebu Brive yng nghynghrair Ffrainc.
Mae dau Gymro arall sy'n chwarae i glybiau yn Ffrainc, Mike Phillips a Lee Byrne, wedi cael eu rhyddhau gan eu clybiau i fynd i Spala.
Mae rheolau'r Bwrdd Rygbi Rhyngwladol yn nodi fod yn rhaid i glybiau ryddhau chwaraewyr wythnos cyn dechrau'r gystadleuaeth.
Bydd Cymru'n teithio i Ddulyn i herio Iwerddon ar Chwefror 5.
Pythefnos
Ond mae cytundeb arbennig rhwng Cymru a'r pedwar rhanbarth wedi sicrhau fod eu chwaraewyr nhw yn cael eu rhyddhau bythefnos cyn y gêm er mwyn paratoi gyda'r hyfforddwr Warren Gatland.
"Yn y pen draw, rydw i allan yma yn Ffrainc ac mae gen i job i wneud," meddai'r chwaraewr 26 oed.
"Rwy'n caru'r clwb, ac nid wyf am droi'r drol yma.
"Mae'n rhaid i glybiau Ffrainc ryddhau chwaraewyr wythnos cyn y Chwe Gwlad ac mae Warren eisiau pythefnos.
"Mae'n anodd, ond y cyfan y medra i wneud yw datgan fy uchelgais i chwarae dros Gymru, ac os ydyn nhw am fy nghael i, rwyf ar gael.
"Mae gan Perpignan gêm fawr yn erbyn Brive yr wythnos cyn y Chwe Gwlad felly penderfyniad y clwb fydd hwn.
"Os yw'r clwb am fy nghael i, fe fydd rhaid i mi chwarae a byddaf yn rhoi 100% i mewn i hynny."
Bydd gwersyll ymarfer Cymru yng ngwlad Pwyl yn dechrau ar Ionawr 22.
Mae Bayonne wedi gadael i Mike Phillips fynd yno cyn belled ei fod yn dychwelyd mewn pryd i chwarae yn erbyn Toulon ar Ionawr 26.
Mae Clermont Auvergne hefyd wedi caniatàu i Lee Byrne fynd yno rhwng Ionawr 23-25 cyn belled ei fod yn dychwelyd ar gyfer y gêm yn erbyn Bordeaux-Begles ar Ionawr 26.
Straeon perthnasol
- 5 Ionawr 2012