Uwchgynghrair Cymru

Cyhoeddwyd
ffynhonnell y llun, Not Specified

Cafodd un o gemau Uwchgynghrair Cymru, rhwng Y Bala a Lido Afan, ei gohirio am wythnos oherwydd y tywydd.

Mae'r cae ym Maes Tegid o dan ddŵr ar ôl glaw trwm yn ystod yr wythnos.

Fe gafodd y penderfyniad ei wneud am 8am ddydd Sadwrn.

Fe fydd y gêm yn cael ei chynnal ddydd Sadwrn Ionawr 14 am 2.30pm.

Un gêm yn unig oedd yn y gynghrair y penwythnos yma wrth i Brestatyn groesawu Castell-nedd.

Gêm gyfartal oedd hi ar Ffordd Bastion.

Y tîm cartref aeth ar y blaen wedi 57 munud wrth i Darren Hughes rwydo.

Ond naw munud cyn diwedd y gêm fe wnaeth Toby Jones ergydio'n gywir i sicrhau pwynt i'r ymwelwyr.

Dydd Sadwrn

Prestatyn 1-1 Castell-nedd

TABL UWCHGYNGRHAIR CYMRU

Ionawr 7 2012

Dolenni perthnasol ar y we

Dyw'r BBC ddim yn gyfrifol am gynnwys gwefannau allanol