Angladd un o'r ddwy ffrind fu farw wedi damwain yn Llanrug

Sasha Danielle Jarvis Image copyright Other
Image caption Roedd Sasha Danielle Jarvis yn 19 oed

Mae angladd Sasha Danielle Jarvis, 19 oed, wedi cael ei gynnal yn Llanberis ddydd Llun.

Roedd hi'n un o'r ddwy ffrind ifanc gafodd eu lladd mewn damwain ffordd Ddydd Calan yn Llanrug.

Roedd yr angladd yn Eglwys Sant Padarn am 10.30am.

Cafodd angladd Sian Gwenllian Lloyd Davies ei gynnal yn Nant Peris ddydd Sadwrn.

Bu farw'r ddwy wedi i'w car Vauxhall Corsa daro'n erbyn wal yn Llanrug am 6am ddydd Sul Ionawr 1, 2012.

'Llawn hwyl'

Roedd y car yn teithio rhwng Llanberis a Chaernarfon pan darodd yn erbyn wal ger tafarn Glyn Twrog yn y pentref.

Bu farw'r ddwy yn y fan a'r lle.

Dywedodd teulu Sasha, oedd yn gynorthwy-ydd dosbarth yn Ysgol Gynradd Llanrug, ei bod yn "ferch gynnes oedd yn llawn hwyl ac yn caru ei theulu a'i hamryw ffrindiau".

"Bydd ei theulu a'i ffrindiau yn teimlo colled enfawr ar ôl Sasha wedi'r digwyddiad sydyn a thrasig hwn.

"Fyddwn ni byth yn ei hanghofio."

Ychwanegodd y teulu ei bod wrth ei bodd gyda'r holl blant yn yr ysgol, yn ogystal â thrigolion a staff cartref gofal yn Llanberis lle'r oedd hi'n gweithio.

Roedd hi'n ferch i Menai a Neil ac yn llysferch i Barry a chwaer hoffus Sophie, Sarah a'i phartner Ian ac yn fodryb arbennig i Ceian Morgan.

Ers y ddamwain mae ffrindiau'r ddwy wedi bod yn gadael blodau gerllaw safle'r ddamwain.

Cafodd y cwest ei agor a'i ohirio gan y Crwner Dewi Pritchard-Jones ddydd Mawrth.

Image copyright (C) British Broadcasting Corporation
Image caption Mae blodau wedi eu gadael wrth safle'r ddamwain

Straeon perthnasol

Cysylltiadau Rhyngrwyd

Dyw'r BBC ddim yn gyfrifol am safleoedd rhyngrwyd allanol.