Luton 2-0 Casnewydd

Cyhoeddwyd
ffynhonnell y llun, Other

Luton 2-0 Casnewydd

Mae Luton yn parhau i gadw eu lle yn y pedwar ucha' o Uwchgynghriar Blue Square wedi eu pedwaredd fuddugoliaeth o'r bron.

Dydd Sadwrn fe wnaethon nhw guro 10 dyn Casnewydd sy'n parhau yn y pump isa'.

Cafodd Ryan Charles gerdyn coch ar ei ymddangosiad cyntaf i Gasnewydd ar ôl tacl yn defnyddio ei ddwy droed ar Daniel Gleeson.

O fewn dau funud i'r digwyddiad fe aeth Luton ar y blaen wrth i Aaron O'Connor benio i'r rhwyd 10 munud cyn yr egwyl.

Wedi 66 munud fe gafodd Danny Crow ail gôl y tîm cartref.

Tabl Uwchgynghrair Blue Square Bet

Ionawr 7 2012