Buddugoliaeth i'r Scarlets wrth i'r Gleision gael eu curo

Gleision 19-23 Leinster

Scarlets 16-14 Glasgow

Cafodd y Scarlets fuddugoliaeth wrth drechu Glasgow nos Sadwrn ond methu curo'r tîm sydd ar frig tabl y Pro12, Leinster, wnaeth y Gleision yng Nghaerdydd.

Erbyn hyn mae Leinster naw pwynt yn glir ar ôl ennill gêm gystadleuol yn Stadiwm Dinas Caerdydd.

Cafodd Sean O'Brian a Rob Kearney geisiadau cynnar i'r ymwelwyr wrth i Jonny Sexton drosi'r ddwy.

Roedd Sexton hefyd yn gyfrifol am ddwy o dair cic gosb yr ymwelwyr.

Cafodd y Gleision gais wrth i Gethin Jenkins drosi a dod a'r ddau dîm yn nes gyda phwynt wedi dwy gic gosb llwyddiannus gan Leigh Halfpenny a chic adlam gan Dan Parks.

Ond methodd Halfpenny a throsi'r cais.

Methodd hefyd ddwy gic gosb arall, ond llwyddodd Fergus McFadden gyda thrydedd cic yr ymwelwyr.

Doedd Gavin Henson ddim yn nhîm y Gleision ar ôl iddo dynnu allan gydag anaf i'w goes.

Scarlets

Dau bwynt oedd yna rhwng y timau ar Barc Y Scarlets wrth i'r Cymry godi i'r pedwerydd safle yn y tabl a phum pwynt y tu ôl i'r Gweilch sy'n ail.

Cicio Rhys Priestland oedd yn gyfrifol am 11 o bwyntiau'r Scarlets wrth i Glasgow gael eu trechu am y tro cyntaf ers mis Medi.

Moray Low roddodd Glasgow ar y blaen gyda chais na chafodd ei throsi.

Ond bu'n rhaid i'r ymwelwyr wynebu bod i lawr i 13 dyn wrth i Rob Harley a Ryan Wilson gael eu hanfon i'r gell gosb cyn yr hanner.

Cafodd Gareth Davies gais y tîm cartref ac fe lwyddodd Priestland i ychwanegu dau bwynt at y ciciau cosb.

Dyma drydedd fuddugoliaeth yn olynol i'r Scarlets ers y Nadolig.

Ruaridh Jackson a Scott Wight, ddwywaith, gafodd giciau cosb yr ymwelwyr a oedd yn sicrhau pwynt bonws am golli.

Ac mae'r pwynt bonws hwnnw yn golygu bod Glasgow bwynt ar y blaen i'r Scarlets yn y tabl.

TABL RABODIRECT PRO 12

Safle Gemau Enillwyd Cyfartal Pwyntiau Bonws Cyfanswm
1. Leinster 13 11 0 4 48
2. GWEILCH 13 9 1 1 39
3. Glasgow 13 7 2 3 35
4. SCARLETS 13 7 1 4 34
5. Munster 12 7 0 5 33
6. Ulster 13 7 0 3 31
7. GLEISION 12 6 0 7 31
8. Treviso 12 6 0 4 28
9. Caeredin 13 4 1 4 22
10. DREIGIAU 12 3 1 3 17
11. Connacht 13 3 0 5 17
12. Aironi 13 3 0 2 14

Ionawr 7 2012