Pryder pysgotwyr Pen Llŷn am eu bywoliaeth

Cimwch Image copyright (C) British Broadcasting Corporation
Image caption Gall un o gimychiaid Pen Llŷn gael ei werthu yn lleol neu dros y we

Mae pysgotwyr crancod a chimwch yng Ngwynedd yn poeni bod cynlluniau i gau rhannau o wely môr oddi ar arfordir Pen Llŷn yn mynd i gael effaith ar eu bywydau.

Maen nhw'n dadlau bod y dull traddodiadol o bysgota yn gynaliadwy ac nad oes angen cyfyngiadau.

Dywedodd Llywodraeth Cymru nad yw'r cyfnod ymgynghorol wedi dechrau ond bod ardaloedd gwarchod yn gwbl allweddol.

Er y pryderon, mae pysgotwyr a chwmnïau lleol yn dweud bod 'na ddigon o bysgod ar gael a bod 'na farchnad ar eu cyfer.

Dywedodd Siôn Williams, ysgrifennydd Cymdeithas Pysgotwyr Cewyll Llŷn, na fyddai cau'r rhannau o'r môr yn gweithio.

"Mae ganddo ni diriogaeth yr ydym yn ei bysgota, ac er ein bod yn croesi o un i'r llall, yn ein hardaloedd fyddwn ni'n aros benna," meddai.

Llai o bysgotwyr

"Os ydi'r ardal yna wedi cau yna fydd 'na ddadleoli, nid yn unig y pysgotwyr ond hefyd yr offer (cychod a chewyll ac ati) ac felly fe fydd 'na effaith ehangach."

Dywedodd bod tua 36-37 o gychod bach (hyd at 10 medr o ran hyd) ar hyn o bryd wedi eu cofrestru ar yr arfordir.

Mae llai na hanner y rhai yn cynnig cyflogaeth llawn amser.

Dywedodd bod chwech o gychod pysgota yn gweithio o Borth Colmon pan gychwynnodd bysgota yn 1987 pan oedd o dal yn yr ysgol, tri sydd yno erbyn hyn a Mr Williams, 38 oed, yw'r unig un llawn amser.

Gan nad oes 'na harbwr yno mae'r cychod yn cychwyn o'r traeth, sy'n caniatáu i Mr Williams fod allan am tua pedair awr ar y tro gan ddibynnu ar y llanw.

Er gwaetha'r problemau dywedodd Mr Williams bod y pysgotwyr eu hunain yn weithgar iawn ac yn fodlon gweithio i ddiogelu dyfodol y diwydiant.

Mae'r cynnyrch y mae Mr Williams yn ei ddal yn cael ei werthu i gwmni o Ynys Môn sy'n marchnata'r cynnyrch i weddill y DU, Ffrainc a Sbaen.

'Ymwelwyr'

Mae cwmni Selective Seafood yn Nhudweiliog hefyd yn prosesu'r cynnyrch.

Mary White a Gareth Griffiths sefydlodd y cwmni yn 2001 ac maen nhw'n credu bod ansawdd y cynnyrch yn wych o ganlyniad i ddŵr clir yr ardal ac nad oes gormod o bysgota yno.

Image copyright (C) British Broadcasting Corporation
Image caption Mae'n rhaid i'r pysgotwyr gael digon o offer

"Rydym yn prynu'r cimwch a'r crancod yn fyw cyn eu berwi a'u paratoi er mwyn y farchnad leol, i ymwelwyr gan amla'," meddai Ms White.

Maen nhw'n trin tua 10,000 o grancod y flwyddyn ac er gwaetha'r diffygion economaidd mae Mr Griffiths yn credu y gall y busnes oroesi.

"Tra bydd y sefyllfa yn cael ei blismona yn gywir fe fydd yn gynaliadwy.

"Ond gyda phris tanwydd ac abwyd ar gynnydd mae'n bosib y bydd rhaid i'r ffermwyr sydd ag ychydig o gewyll ildio."

Dywedodd Llywodraeth Cymru eu bod am osod nifer bychan o Barthau Cadwraeth Morol yn nŵr Cymru

Dywedodd bod 'na farn wyddonol gref, yn rhyngwladol ac yma, bod ardaloedd sy'n cael eu gwrachod o bwys gwirioneddol i ardaloedd morwrol, er eu bod yn "derbyn y sensitifrwydd" sydd ei angen a bod eisiau "y balans cywir rhwng cadwraeth, economi a budd cymdeithasol".

"Dyma paham y mae Llywodraeth Cymru wedi ymrwymo i adnabod ardaloedd a all roi'r budd mwya yn ecolegol, yn economaidd ac yn gymdeithasol i gwtogi ar y defnydd gwahanol a geir o'r môr," meddai llefarydd.

Ychwanegodd mai canfod safleoedd posib y maen nhw ar gyfer tri rhan o ymgynghoriad a fydd yn cychwyn yn y gwanwyn.

"Fe fydd barn pysgotwyr yn allweddol yn y broses," meddai.

"Rydym yn disgwyl bod mewn sefyllfa i gyhoeddi'r parthau yn 2013."

Cysylltiadau Rhyngrwyd

Dyw'r BBC ddim yn gyfrifol am safleoedd rhyngrwyd allanol.