Gweithwyr Unilever Cymru i ymuno â streic drwy'r DU

PG Tips
Image caption Gall y streic gael effaith ar gynhyrchu eitemau fel PG Tips

Bydd gweithwyr o Gymru ymhlith miloedd o staff Unilever a fydd yn mynd ar gyfres o streiciau 24 awr yn ddiweddarach yn y mis.

Maen nhw yn anfodlon â phensiynau.

Cyhoeddodd arweinwyr undeb y byddai hyd at 12 diwrnod o streiciau yn dechrau ymhen wythnos a hanner.

Fe allai'r gweithredu diwydiannol effeithio ar gyflenwadau prif gynnyrch y cwmni fel Marmite, Pot Noodle, PG Tips, Dove a Hellman's Mayonnaise

Mae undebau Unite, Usdaw a'r GMB i fynd ar streic.

Mae gan gwmni Unilever ffatri yng Nghrymlyn yn Sir Caerffili lle maen nhw'n gwneud Pot Noodle a swyddfeydd technoleg gwybodaeth yn Ewlo yn Sir y Fflint.

Streic gyntaf

Dywed y gweithwyr bod y bwriad i ddod a chynllun cyflog terfynol i ben yn mynd i gwtogi incwm ymddeol staff hyd at 40%.

Bydd gweithwyr yn Purfleet, Port Sunlight, Warrington, Leeds, Caerloyw, Manceinion a Burton-on-Trent hefyd ar streic.

Ym mis Rhagfyr roedd 2,500 o weithwyr yn rhan o streic genedlaethol y cwmni.

"Mae'n ymddangos bod Unilever yn credu y byddai'r gweithwyr yn ildio ar ôl un diwrnod o fod ar streic, ond maen nhw'n anghywir," meddai Jennie Formby, swyddog cenedlaethol gydag undeb Unite.

"Mae'r gweithlu yn anhapus iawn bod y cwmni wedi gwrthod ein cyfarfod a mynychu trafodaethau gyda Acas."

Yn flaenorol dywedodd Unilever bod rhaid i'w cytundeb pensiwn yn y DU adlewyrchu'r byd go iawn er mwyn bod yn gynaliadwy yn y dyfodol.

Cysylltiadau Rhyngrwyd

Dyw'r BBC ddim yn gyfrifol am safleoedd rhyngrwyd allanol.