Celf yn 'ysbrydoli cleifion ac ymwelwyr'
- Published
Mae arddangosfa wedi agor yn Oriel Ysbyty Gwynedd, Bangor, detholiad o ffotograffau o bwll nofio'r ddinas.
Gwaith y cyn-artist preswyl Alison Mercer sy'n cael ei gyflwyno ochr yn ochr â gwaith y ffotograffydd, Jan Daviesr.
Mae'r oriel, agorodd ddydd Mawrth, ym mhrif fynedfa'r ysbyty.
Rhan yw hon o raglen celfyddyd mewn iechyd a lles, sy'n cynnwys cynlluniau arloesol sy'n defnyddio'r celfyddydau i gyfrannu at ofal iechyd, hyrwyddo lles a gwella cysylltiadau cymunedol a chyfathrebu.
Dywedodd llfarydd ar ran Cyngor Gwynedd: "Cydnabuwyd ers tro fod cysylltiad rhwng y celfyddydau ac iechyd ac y gall pobl elwa ar fod mewn amgylchedd ffafriol lle mae cynllun da a chelfyddyd yn ogystal ag elwa ar gymryd rhan mewn gweithgareddau creadigol.
"Dyma agwedd fwyaf diweddar cynllun celf mewn iechyd a lles Bwrdd Iechyd Prifysgol Betsi Cadwaladr sy'n gweithio mewn partneriaeth ag Uned Celfyddydau Cymunedol Cyngor Gwynedd.
"Bwriad yr oriel yw cyfrannu'n bositif at brofiad y claf o amgylchedd yr ysbyty.
"Mae'r oriel yn croesawu cleifion, staff ac ymwelwyr i'r adeilad, yn darparu amgylchedd ddiddorol a chreadigol i bawb ei fwynhau."
Fe fydd yr arddangosfa tan ddiwedd mis Mawrth 2012.
Straeon perthnasol
- Published
- 4 Tachwedd 2011