Cwpan FA Lloegr - y bedwaredd rownd
- Cyhoeddwyd
Wedi penwythnos llawn cyffro a goliau mae'r enwau wedi dod o'r het ar gyfer pedwaredd rownd Cwpan FA Lloegr.
Llwyddodd Abertawe i guro Barnsley ddydd Sadwrn o 4-2 tra bod Wrecsam wedi cael gêm gyfartal yn erbyn Brighton.
Bydd rhaid i'r Dreigiau groesawu Brighton i'r Cae Ras ar Ionawr 17.
Teithio i Macclesfield neu Bolton fydd rhaid i Abertawe yn y bedwaredd ac os yw Wrecsam yn fuddugol yn yr ailchwarae fe fyddan nhw'n wynebu Newcastle United o'r Uwchgynghrair ar y Cae Ras.
Pedwaredd rownd Cwpan FA Lloegr.
Brighton / Wrecsam v Newcastle
Sunderland v Middlesbrough
Dagenham & Redbridge v Southampton
Hull City v Crawley
MK Dons / QPR v Chelsea
West Brom v Norwich
Blackpool v Sheffield Wednesday
Arsenal / Leeds v Aston Villa
Stevenage v Notts County
Watford v Tottenham
Lerpwl v Manchester United
Derby v Stoke City
Everton v Fulham
Macclesfield / Bolton v Abertawe
Sheffield United v Birmingham / Wolves
Nottingham Forest / Caerlŷr v Swindon
Bydd y gemau yn cael eu chwarae ar benwythnos Ionawr 28 a 29 2012.