Dynes wedi'i chyhuddo o geisio llofruddio dyn
- Cyhoeddwyd
Ffynhonnell y llun, (C) British Broadcasting Corporation
Cafodd yr heddlu eu galw i'r safle toc cyn 1.30am ddydd Sul
Mae dynes 49 oed wedi cael ei chyhuddo o geisio llofruddio wedi digwyddiad yn Y Fflint.
Dywedodd Heddlu Gogledd Cymru eu bod wedi cael eu galw i Bolingbroke Heights yn y dref toc cyn 1.30am ddydd Sul.
Roedd dyn 62 oed wedi cael ei drywanu.
Aed â fo i'r ysbyty lle mae o mewn cyflwr sefydlog.
Mae disgwyl i'r ddynes ymddangos o flaen ynadon yn Wrecsam ddydd Llun.
Yn y cyfamser, mae'r heddlu yn gofyn i unrhyw un oedd yn ardal Bolingbroke yn Y Fflint yn ystod oriau man bore dydd Sul i gysylltu â nhw.
Dolenni perthnasol ar y we
Dyw'r BBC ddim yn gyfrifol am gynnwys gwefannau allanol