Mark Hughes yw'r olynydd i Neil Warnock yn QPR

  • Cyhoeddwyd
Mark HughesFfynhonnell y llun, AP
Disgrifiad o’r llun,
Mark Hughes yw'r rheolwr newydd

Daeth cadarnhad mai Mark Hughes, cyn reolwr tîm pêl-droed Cymru, fydd rheolwr newydd Queens Park Rangers.

Fe wnaeth Rangers, sydd heb ennill mewn wyth gêm, ddiswyddo eu rheolwr Neil Warnock ddydd Sul.

Mae Hughes wedi arwyddo cytundeb dwy flynedd a hanner i gymryd yr awenau.

Wrth dderbyn y swydd, dywedodd Hughes: "Rwy'n ymwybodol iawn o'r her yn y tymor byr a'r tymor hir, ond rwy'n gyffrous iawn am uchelgais y perchnogion.

"Y flaenoriaeth yw cadw'n lle yn yr Uwchgynghrair. Mae'r dyfodol yn ddisglair iawn yma."

Mae QPR yn 17eg yn yr Uwchgynghrair, a heb ennill gêm ers Tachwedd 19 pan enillon nhw o 3-2 yn Stoke.

Bydd yr her gyntaf i'r rheolwr newydd a'i dîm brynhawn Sul pan fydd QPR yn ymweld â Newcastle.

Cafodd QPR eu dyrchafu i'r uwchgynghrair y llynedd, ynghyd â Norwich ac Abertawe.

Mae Hughes yn gyn reolwr ar Blackburn Rovers, Manchester City a Fulham.

Fe ymddiswyddodd fel rheolwr Fulham ym Mehefin 2011 ar ôl llai nag 11 mis wrth y llyw yn Craven Cottage.

Dolenni perthnasol ar y we

Dyw'r BBC ddim yn gyfrifol am gynnwys gwefannau allanol