Gwadu llofruddiaeth actor

Mae dyn 37 oed wedi gwadu cyhuddiad o lofruddio actor yn ei gartref yng Nghwmbrân.

Clywodd Llys y Goron Caerdydd fod Gary Suller, 44 oed, wedi cael ei guro i farwolaeth.

Trwy gyswllt fideo ddydd Llun fe wadodd Barry Bowyer, o Groesyceiliog, gyhuddiad o lofruddiaeth.

Roedd Mr Suller wedi ymddangos yng nghyfresi Dr Who a Casualty.

Dywedodd David Aubrey, ar ran yr amddiffyniad: "Does yna ddim amheuaeth mai'r diffynnydd sy'n gyfrifol am y farwolaeth. Ond mae'n bosib nad oedd y diffynnydd yn ei iawn bwyll."

Cafodd Bowyer ei gadw yn y ddalfa a bydd gwrandawiad arall fis nesa'.

Cysylltiadau Rhyngrwyd

Dyw'r BBC ddim yn gyfrifol am safleoedd rhyngrwyd allanol.