Cynllun i roi hafan i wenyn mêl
- Cyhoeddwyd

Mae un o atyniadau Parc Cenedlaethol Eryri i gael ei sefydlu fel 'hafan' i wenyn mêl Cymru.
Bydd cyfle i'r cyhoedd ymweld â'r Tŷ Hyll yng Nghapel Curig er mwyn gwylio a dysgu am y rhywogaeth sydd o dan fygythiad a hefyd blasu cynnyrch mêl lleol.
Mae'r fenter yn un ar y cyd rhwng Cymdeithas Eryri a Chanolfan Cadw Gwenyn Genedlaethol Cymru.
Dywedodd Jennifer Stewart, Pennaeth Treftadaeth y Loteri yng Nghymru sydd wedi helpu ariannu'r fenter, bod hi'n hanfodol ein bod i gyd yn deall pwysigrwydd y wenynen fêl a'r bygythiadau iddi.
Lladron
"Bydd cyfle i bobl gymryd rhan mewn sesiynau ymarferol fydd yn sicrhau bod y medrau ymarferol traddodiadol ar gyfer cadw gwenyn yn parhau am flynyddoedd lawer i ddod," ychwanegodd.
Yn ôl y sôn tŷ unnos yw Tŷ Hyll a godwyd dros nos yn y 15fed ganrif.
Dywed eraill mai lladron oedd yn byw yno ar un pryd, a'u bod yn ymosod ar deithwyr y Goets Fawr ar y lôn bost.
Ym 1988 prynwyd y tŷ gan Esmé Kirby, sylfaenydd Cymdeithas Eryri, ac roedd yn bencadlys i'r sefydliad cyn i'r swyddfa symud i Frynrefail yn 2010.
Cafodd y fenter hefyd ei hariannu gan Gronfa Datblygu Ranbarthol Ewrop.
Bydd Canolfan Cadw Gwenyn Genedlaethol Cymru yn agor at Stad Bodnant yn 2012.
Straeon perthnasol
- Cyhoeddwyd21 Mai 2008
- Cyhoeddwyd24 Mai 2009
- Cyhoeddwyd4 Hydref 2008