Apêl am ferch ar goll

Lianne Robinson Image copyright Other
Image caption Does neb wedi gweld Lianne Robinson ers nos Sadwrn

Mae'r heddlu yng Nghastell-nedd Port Talbot yn apelio am wybodaeth am ferch 19 oed ar goll.

Does neb wedi gweld Lianne Robinson ers nos Sadwrn pan oedd yng nghanol tref Port Talbot.

Roedd yn gwisgo siwmper 'hoodie' werdd, cot frown, trowsus tracwisg llwyd ac esgidiau rhedeg.

Mae hyd at 5'6" o daldra gyda gwallt melyn a thatŵ ar ei gwar.

Dywedodd yr heddlu y dylai unrhyw un sydd wedi ei gweld neu glywed gan Lianne ers nos Sadwrn gysylltu gyda nhw.

Dylai pobl ffonio'r heddlu ar 101 neu Taclo'r Tacle'n ddienw ar 0800 555111.