Dyn wedi marw ar ôl gwrthdrawiad ym Mae Caerdydd

Mae dyn 25 oed wedi marw yn yr ysbyty yn dilyn gwrthdrawiad rhwng car a cherddwr ym Mae Caerdydd yn gynnar fore Mawrth.

Fe ddigwyddodd ar Stryd Iago tua 3:00am.

Cafodd dyn ei arestio yn y fan a'r lle ac mae'n cael ei holi ar amheuaeth o yrru'n beryglus a bod yn anghymwys i yrru oherwydd dylanwad diod neu gyffuriau.

Cafodd y cerddwr ei gludo i Ysbyty Athrofaol Cymru, ond bu farw'n ddiweddarach.

Mae Heddlu De Cymru yn gofyn i unrhyw un a welodd y digwyddiad i gysylltu â nhw.

Yn y cyfamser, mae Stryd Iago yn parhau ynghau a thraffig yn cael ei ddargyfeirio tra bod yr heddlu'n ymchwilio i'r digwyddiad.

Cysylltiadau Rhyngrwyd

Dyw'r BBC ddim yn gyfrifol am safleoedd rhyngrwyd allanol.