Cymuned 'mewn sioc' wedi damwain
- Published
Mae'r dyn wnaeth alw'r gwasanaethau brys yn dilyn damwain angheuol ar Fwlch yr Oernant yn dweud fod y gymuned leol yn parhau mewn sioc wedi'r digwyddiad.
Rhys Hughes o Eglwyseg oedd y person cyntaf i gyrraedd y safle wedi'r ddamwain dydd Llun, pan gafodd dau ddyn eu lladd ac un arall ei anafu.
"Mae meddyliau pawb gyda theuluoedd y tri," meddai Mr Hughes.
Roedd y tri oedd yn teithio yn y car yn fyfyrwyr yng Ngholeg Llysfasi, ger Rhuthun.
Ffens
Y rhai fu farw o ardal Rhiwabon oedd Jonathon Lee Cassidy Jones a Dale Thomas Williams ac roedd y ddau'n 18 oed.
Mae dyn arall gafod anafiadau i'w frest yn Ysbyty Maelor, Wrecsam.
Cafodd dwy injan dân - un o Langollen ac un o'r Waun - eu hanfon i'r safle hanner milltir o dafarn y Britannia Inn i gyfeiriad Llangollen am 12:38pm.
"Roedd y tri mewn car Peugeot glas darodd goeden wrth iddynt deithio i gyfeiriad Llangollen," meddai'r heddlu.
Dywedodd Mr Hughes, sy'n gynghorydd yn Llangollen, ei fod yn gyrru ar Fwlch yr Oernant i gyfeiriad Rhuthun pan welodd fod rhan o ffens ar ymyl y ffordd wedi ei difrodi.
"Fe wnes i stopio tua 100 llath i fyny'r ffordd, yna troi yn ôl a sylweddoli beth oedd wedi digwydd.
"Roedd yna ddyn ifanc yn dod i fyny'r llethr.
"Fe wnes i ofyn a oedd o'n iawn ac yna deialu 999. Yn ffodus fe wnes i lwyddo i ddal sylw gyrwyr eraill, ac fe ddaeth pobl i helpu."
Dylai unrhyw dystion neu unrhyw un â gwybodaeth ffonio'r Cwnstabl 450 Aled Jackson yn Uned Blismona Ffyrdd Heddlu'r Gogledd ar 101 neu 0300 3300 101.
Straeon perthnasol
- Published
- 9 Ionawr 2012