Carchar am dynnu lluniau o dreisio
- Cyhoeddwyd

Cafodd menyw ei charcharu am 10 mlynedd yn Llys y Goron Caerdydd am dynnu lluniau merch yn cael ei threisio.
Tynnodd Nerissa Williams, 48 oed, luniau o weithred y "pidoffeil peryglus" Neil Beecham ar ferch oed cynradd.
Clywodd y llys fod Beecham, 49 oed, a Williams wedi rhoi'r lluniau o'r ymosodiad ar y we er mwyn i eraill eu gweld.
Cafodd Beecham ei garcharu am 12 mlynedd ar ôl i'r ddau bledio'n euog i 12 cyhuddiad, gan gynnwys treisio, ymosod yn rhywiol, annog plentyn i gyflawni gweithred rywiol a dosbarthu delweddu anweddus o blant.
'Dwyn diniweidrwydd'
Daeth yr ymosodiadau i'r amlwg wedi i'r heddlu gael galwad aelod o'r cyhoedd a mynd i gartref Beecham.
Dywedodd y Barnwr Neil Bidder fod y cwpwl wedi "dwyn diniweidrwydd y ferch fach".
"Cafodd y ferch fach ei threisio gan Beecham gyda chymorth Williams, a dynnodd luniau o'r ymosodiad.
"Fe wnaeth Beecham wedyn ddosbarthu'r lluniau i unigolion eraill gyda'r un tueddiadau gwyrdroëdig.
"Roedd y lluniau ar y we gyda'r posibilrwydd iddyn nhw gael eu gweld ar draws y byd."
Sgyrsiau
Clywodd Llys y Goron Caerdydd fod gan Beecham filoedd o luniau pidoffilaidd ar ei gyfrifiadur a gliniaduron eraill ac fe ddaeth plismyn o hyd i gofnod o sgyrsiau yr oedd Beecham wedi eu cael gyda phidoffiliaid eraill ar y we.
Ychwanegodd y barnwr: "Fe wnaethoch chi awgrymu hyn wrth bidoffiliaid eraill - pe bai gennych blant ifanc eich hunan fe fyddech wedi eu cam-drin.
"Rydych yn bidoffeil peryglus sy'n fygythiad i blant ifanc, yn enwedig merched ifanc."
Cafodd Beecham o Bontllanfraith, Caerffili, ei garcharu am 12 mlynedd. Y gosb i Williams o Drecynon, Rhondda Cynon Taf, oedd 10 mlynedd dan glo.
Bydd y dau ar y gofrestr troseddwyr rhyw am weddill eu hoes.
Dywedodd y barnwr fod y dedfrydau er mwyn gwarchod y cyhoedd sy'n golygu na fydd y ddau'n cael eu rhyddhau tan i'r bwrdd parôl ddweud ei bod hi'n ddiogel wneud hynny.