'Marwolaeth ddamweiniol' wedi ymosodiad gan wartheg

Marilyn Duffy Image copyright Other
Image caption Roedd Mailyn Duffy yn mynd a'i chi am dro pan fu farw fis Awst diwetha'

Mae cwest wedi cofnodi rheithfarn o farwolaeth ddamweiniol yn achos dynes, a gafodd ei darganfod yn farw mewn cae llawn gwartheg.

Daeth y cwest, a gynhaliwyd yng Nghaerdydd, i'r casgliad fod Marilyn Duffy wedi cael ei hanafu'n angheuol gan yr anifeiliaid.

Cafodd corff y ddynes 61 oed ei ddarganfod mewn cae yn Radur, ger Caerdydd, ym mis Awst 2011.

Roedd Ms Duffy yn cerdded gyda'i chi drwy gae ger Clwb Golff Radur, oddi ar Lon Pant Tawel, pan gafodd ei lladd.

Wedi'r farwolaeth, daeth rhybudd y dylai perchnogion ollwng y tennyn yn hytrach na gwarchod eu cŵn wrth wynebu da byw.

Straeon perthnasol