Chwarel: Cyhoeddi enw dyn fu farw
- Published
Mae enw'r dyn fu farw mewn chwarel yn Llanymynech dros y penwythnos wedi cael ei gyhoeddi.
Roedd Graham Bebb yn 57 oed ac yn hanu o Groesoswallt.
Dywedodd ei deulu: "Roedd Graham wrth ei fodd gydag antur a'r awyr agored. Allt Llanymynech oedd un o'i hoff lwybrau cerdded ers iddo ddod o hyd i arian Rhufeinig yno pan oedd yn ieuanc.
"Ar yr achlysur hwn fe drodd y llwybr yn lleoliad damwain drasig.
"Roedd Graham wrth ei fodd yn garddio ac yn gerddor brwd. Roedd yn aelod o Gôr Meibion y Rhos ac yn ffyddlon i'r eglwys. Bydd colled fawr ar ei ôl.
"Hoffai'r teulu ddiolch i'w cyfeillion am yr holl gefnogaeth dros y dyddiau diwethaf ac i'r heddlu a'r gwasanaethau brys am eu cymorth o dan yr amgylchiadau trasig hyn."
Mae'r heddlu yn dal i ymchwilio i amgylchiadau marwolaeth Mr Bebb.
Os oes gan unrhyw un wybodaeth neu os oedd yn cerdded ger y chwarel ddydd Gwener neu ddydd Sadwrn diwethaf, dylai ffonio Gorsaf Heddlu'r Trallwng ar 101.
Straeon perthnasol
- Published
- 9 Ionawr 2012