Cwmni dosbarthu'n colli swyddi

Llyfrau Image copyright (C) British Broadcasting Corporation
Image caption Mae'r cwmni'n dosbarthu llyfrau

Mae cwmni o Ynys Môn sy'n dosbarthu llyfrau, cyfarpar swyddfa a theganau wedi dweud y bydd 20 o bobl yn colli eu gwaith oherwydd y sefyllfa economaidd.

Dywedodd Webbs eu bod yn cyflogi 160 o bobl yn eu stordy ym Mhorthaethwy.

"Mae'r problemau wedi bod cyn y Nadolig," meddai Mike Webb, cyfarwyddwr y cwmni.

"Yn sicr, mae'r sefyllfa wedi bod yn ddrwg am ran fwya 2011 ac yn y blynyddoedd diwethaf mae'r farchnad wedi crebachu."

Cafodd y cwmni ei sefydlu yn 1928.