Cau traeth yn Abertawe ar gyfer ras feicio?
- Published
Gall dros filltir o lan y môr Abertawe fod ar gau am dridiau ym mis Mawrth os bydd rasys beic modur yn cael eu cynnal yno.
Mae trefnwyr digwyddiad sy'n denu hyd at 80,000 o wylwyr yng Ngwlad yr Haf am gynnal un tebyg yn Abertawe.
Byddai'n rhaid i filoedd o dunelli o dywod gael eu symud i greu twyni ar gyfer y cyrsiau beicio cwad a Motocross ger y ganolfan ddinesig.
Mae'r digwyddiad arfaethedig yn cael ei gefnogi gan brif grŵp busnes Abertawe ond mae adroddiad ar gyfer Cyngor Abertawe yn rhybuddio y bydd rhai aelodau o'r cyhoedd yn debygol o wrthwynebu'r cynllun.
Taro cytundeb
Mae RHL Activities, wedi cynnal Ras Draeth Weston yn Weston-Super-Mare ers mwy na degawd.
Ac yn awr, mae'r cwmni am gynnal Ras Draeth Gymreig flynyddol yn Abertawe.
Dywed y cyngor allai'r ras ddenu hyd at 70,000 o wylwyr a bod yn werth £3m y flwyddyn i'r economi leol.
Ymwelodd swyddogion y cyngor â'r ras yn Weston-Super-Mare ym mis Hydref y llynedd gan adrodd bod y digwyddiad wedi ei reoli'n dda.
Yn awr mae'r swyddogion am ganiatâd i daro cytundeb â threfnwyr y ras.
Byddai'r cynllun yn golygu cau ardal eang o'r traeth i greu cwrs cylchog dair milltir o hyd fydd yn cynnwys hyd at 40 o dwyni a neidiau o feintiau gwahanol.
Dywed y cyngor mai'r trefnwyr fydd yn talu am adeiladu'r cwrs ac adfer y traeth wedi i'r digwyddiad ddod i ben.
Byddai dros filltir o'r promenâd ar gau i'r cyhoedd rhwng Gwesty'r Marriot a Lôn Brynmill rhwng Dydd Iau Mawrth 1 a Dydd Sul Mawrth 4.
Dywedodd Russell Greenslade, prif weithredwr BID Abertawe, sy'n cynrychioli mwy na 800 o fusnesau yng nghanol y ddinas, fod "cefnogaeth lwyr" i'r digwyddiad.
Ychwanegodd fod nifer o fusnesau wedi ymweld â Weston-Super-Mare i drafod effaith y ras ar fusnesau yno.
Mae adroddiad a drafodir gan Gabinet y cyngor ddydd Iau yn rhybuddio ynghylch nifer o heriau logistaidd a phryderon amgylcheddol.
Dywed yr adroddiad: "Mae yna nifer o faterion arwyddocaol ynglŷn â sŵn fydd yn arwain at nifer o gwynion heb os nac oni bai, a gall y materion hyn achosi poendod sŵn statudol."