Arestio dyn ar amheuaeth o lofruddio
- Cyhoeddwyd
Mae dyn 22 oed wedi cael ei arestio ar amheuaeth o lofruddiaeth wedi i ddyn gael ei daro gan gar ym Mae Caerdydd yn gynnar fore Mawrth.
Bu farw Kyle Griffith, 25 oed o ardal y Bae, yn Ysbyty Athrofaol Cymru ar ôl cael ei daro gan gar yn Stryd James.
Roedd hyn am 3am.
Yn wreiddiol, cafodd y dyn o Bentwyn, Caerdydd, ei arestio ar amheuaeth o yrru'n beryglus a bod yn anghymwys i yrru oherwydd dylanwad diod neu gyffuriau.
Mae Heddlu De Cymru yn gofyn i unrhyw un welodd y digwyddiad i gysylltu â nhw.
Roedd Stryd James ynghau am gyfnod.
Dolenni perthnasol ar y we
Dyw'r BBC ddim yn gyfrifol am gynnwys gwefannau allanol