Canfod corff myfyriwr mewn afon

Gurdeep Hayer Image copyright Other
Image caption Bu Mr Hayer yn astudio busnes ym Mhrifysgol Glyndŵr.

Mae corff dyn na chafodd ei weld ers iddo ddathlu'r Flwyddyn Newydd gyda'i ffrindiau wedi cael ei ganfod mewn afon ym Manceinion.

Roedd Gurdeep Hayer, 20 oed, o West Bromwich, yn fyfyriwr blwyddyn gyntaf yn astudio busnes ym Mhrifysgol Glyndŵr yn Wrecsam.

Bu'n aros gyda ffrindiau yn ardal Fallowfield, Manceinion pan aeth ar goll ar Ddydd Calan.

Dywedodd Heddlu Manceinion fod ei gorff wedi cael ei ganfod mewn afon ger Stryd Caer Efrog ddydd Mawrth.

'Cyfnod anodd'

Cafodd Mr Hayer ei weld am y tro diwethaf yn gadael clwb nos yn ystod oriau mân Ionawr 2.

Dywedodd Yr Athro Michael Scott, Is-Ganghellor Prifysgol Glyndŵr: "Roeddwn i'n ddigon ffodus i dreulio ychydig o amser yn siarad â Gurdeep toc cyn y Nadolig," meddai.

"Roedd hi'n amlwg ei fod yn mwynhau bywyd coleg a bod ei gyfoedion yn ei hoffi'n fawr iawn.

"Mae pawb ym Mhrifysgol Glyndŵr yn meddwl am deulu Gurdeep yn ystod y cyfnod anodd hwn."