Mackay yn flin gyda'r dyfarnwr

Malky Mackay Image copyright Huw Evans picture agency
Image caption Mae Malky Mackay yn credu y gall Caerdydd oresgyn Palace yn yr ail gymal

Mae rheolwr clwb pêl-droed Caerdydd, Malky Mackay, wedi beirniadu'r dyfarnwr Mike Dean am beidio caniatàu gôl i'w dîm yn y golled ynerbyn Crystal Palace nos Fawrth.

Collodd Caerdydd o 1-0, ond gwrthodwyd gôl pan rwydodd Kenny Miller wedi 59 munud ym Mharc Selhurst.

Roedd Dean o'r farn fod trosedd ar golwr Palace, Julian Speroni.

Dywedodd Mackay: "Mae'n gamgymeriad - gall unrhyw un a welodd y lluniau ddweud hynny.

"Doedd yr un o'n chwaraewyr ni yn agos at y golwr. Rwyf wedi edrych ar y digwyddiad sawl gwaith.

"Efallai ei fod yn credu y dylai fod wedi rhoi cic gol yn hytrach na chic gornel a'i fod yn ceisio gwneud yn iawn am hynny.

"Ond ddyliech chi ddim cywiro un cam gydag un arall. Rwy'n siomedig gyda hynny.

Mantais

Mae peniad Anthony Gardner yn rhoi'r fantais i Palace cyn yr ail gymal yn Stadiwm Dinas Caerdydd ar Ionawr 24.

Roedd Mackay yn siomedig hefyd am y modd y sgoriodd Palace y gôl fuddugol.

Ychwanegodd: "Oherwydd maint eu chwaraewyr, roeddem yn ymwybodol o'r bygythiad yn yr awyr."

Ond mae Mackay yn credu y gall ei dîm oresgyn y diffyg yn yr ail gymal a chyrraedd y rownd derfynol yn Wembley yn erbyn naill ai Lerpwl neu Manchester City.

"Roedd y tîm yn wych heno - bob un ohonyn nhw - ac rwy'n falch iawn ohonynt.

"Fe wnaethon ni ddechrau'n dda ac ar brydiau roedden nhw'n ffodus iawn.

"Dim ond hanner amser yw hi nawr, Fe fyddan nhw'n dod i Stadiwm Dinas Caerdydd ymhen pythefnos, ac fe fyddwn ni ar ein gorau, peidiwch poeni am hynny.

"Ni oedd yn ymddangos fel y tîm cartref, a'r un oedd yn fwya tebygol o sgorio. Fe fydd hynny'n rhoi hyder i ni ar ein tomen ein hunain."

Straeon perthnasol