Petersen: Siom i Forgannwg
- Cyhoeddwyd

Mae tîm criced Morgannwg wedi cadarnhau na fydd Alviro Petersen yn dychwelyd i'r sir yn 2012.
Petersen oedd capten Morgannwg y llynedd, ac roedd sibrydion y gallai arwyddo i chwarae i'r sir am dymor arall.
Ond enillodd Petersen ei le yn nhîm De Affrica yn ddiweddar, ac mae BBC Cymru ar ddeall ei fod wedi ymrwymo i deithio gyda De Affrica i Loegr yn 2013.
Fe sgoriodd Petersen 109 yn ei gêm gyntaf yn ôl i Dde Affrica yn erbyn Sri Lanka.
Mae hynny'n gadael penderfyniad anodd i Forgannwg ynglŷn â recriwtio chwaraewr tramor arall wrth ystyried pencampwriaeth T20'r tymor nesaf.
Mae Marcus North o Awstralia eisoes wedi arwyddo cytundeb dwy flynedd fel eu prif chwaraewr tramor.
Sgoriodd Petersen dros 2,000 o rediadau yn 2011, gan gynnwys dros 1,000 ym Mhencampwriaeth y Siroedd, Adran 2.
Cafodd ei ddewis yn chwaraewr y flwyddyn gan ei gyd-chwaraewyr ar ddiwedd y tymor.
Mae mwyafrif carfan Morgannwg wedi dychwelyd i ymarferion cyn y tymor newydd, ac mae'r hyfforddwr Matthew Mott o Awstralia wedi dychwelyd i oruchwylio'r ymarferion.