Ymchwiliad i farwolaeth bachgen

Mae Heddlu Dyfed Powys wedi dweud eu bod yn ymchwilio i farwolaeth sydyn bachgen wyth oed o ogledd Penfro.

Dywedodd llefarydd fod yr heddlu yn cydweithio gyda nifer o asiantaethau fel rhan o'r ymchwiliad.

Bu farw'r bachgen ar Ragfyr 6, 2011.