Heddlu'n ymchwilio i ladd ci
- Cyhoeddwyd

Mae Heddlu'r Gogledd yn apelio am dystion ar ôl i gi farw wedi i bump Rottweiler ymosod yn Ninas Dinlle, ger Caernarfon.
Dywedodd yr heddlu fod yr ymosodiad pan oedd y perchennog yn mynd â'i chi Cocker Spaniel am dro.
Mae'r perchennog, Eira Thomas, 22 oed, wedi dweud bod perchnogion y cŵn wedi gadael mewn fan Transit goch.
Fe gafodd hi driniaeth oherwydd brathiadau a chleisiau ond bu'n rhaid i'w chi Bella gael ei roi i gysgu.
Roedd yr ymosodiad tua 1.30pm ddydd Sul.
'Lladd'
Dywedodd yr heddlu y dylai tystion ffonio 101.
"Mi gyrhaeddodd y cŵn bron heb i fi sylweddoli," meddai Ms Thomas. "Mi daflodd un o'r cŵn Bella i'r awyr.
"Doedden nhw ddim yn cyfarth ond eu bwriad oedd lladd."
Dywedodd hi fod y cŵn i gyd yn edrych arni hi. "Doeddwn i erioed wedi teimlo cymaint o ofn.
"Yna cyrhaeddodd dyn a dweud: 'Mae'n ddrwg gennyf, wnes i ddim sylwi arnoch chi.'
"Fo oedd piau'r cŵn. Roeddwn yn meddwl y dylwn i aros er mwyn cael ei enw, ond unwiath i mi weld yr holl waed mi oeddwn yn gwybod bod rhaid mynd i'r milfeddyg.
"'Sa un neu ddau gi, mi fyddai'r sefyllfa o bosib wedi bod yn wahanol. Ond gyda phac o gŵn roedd yn amhosib amddiffyn Bella."
"Doedd y cŵn ddim o dan reolaeth."