Canolfan addysg newydd i Goleg Llandrillo
- Published
Mae cynllun i adeiladu canolfan addysg newydd yng Ngholeg Llandrillo wedi cael ei gymeradwyo gan bwyllgor cynllunio Cyngor Conwy.
Penderfynodd aelodau'r pwyllgor gefnogi'r cynllun i adeiladu dwy ddarlithfa, ystafelloedd seminar, canolfan adnoddau a storfa o chwe phleidlais i bump.
Ond penderfynodd cynghorwyr na all y gwaith adeiladu ddechrau ar y safle yn Llandrillo-yn-Rhos tan i'r coleg gyflwyno cynllun manwl ynghylch sut y bydd trafnidiaeth i ac o'r safle yn cael ei reoli.
Roedd rhai cynghorwyr wedi datgan eu pryder bod trigolion lleol yn dioddef problemau parcio a phroblemau traffig yng nghyffiniau'r coleg.
'Gwell cyfleusterau'
Dywedodd y cynghorydd Ceidwadol, Merfyn Thomas, sy'n cynrychioli'r ardal, bod strydoedd a ffyrdd o gwmpas y coleg yn anhrefnus wrth i fyfyrwyr a darlithwyr geisio osgoi'r modurwyr yn ystod cyfnod prysur a thraffig trwm tua 4pm bob dydd.
"Mae hyn yn achosi diflastod i drigolion yr ardal yn enwedig pobl hŷn nad ydynt yn gallu gwyro eu ceir o gwmpas y rhwystrau."
Ond dywedodd cynghorydd y Democratiaid Rhyddfrydol, Sue Shotter, ei bod yn deall y problemau.
"Ond mae addysg yn angenrheidiol ac mae'n rhaid i ni ddangos ein cefnogaeth i Goleg Llandrillo a'r gwaith mae'n ei wneud i bobl ifanc yr ardal."
Dywed cais cynllunio Coleg Llandrillo mai nod y cynllun yw darparu gwell cyfleusterau i'w myfyrwyr yn hytrach na denu mwy o fyfyrwyr i'r coleg.
Uno
Ym mis Rhagfyr y llynedd cytunodd Coleg Llandrillo a Choleg Menai uno, gan greu'r corff addysg bellach mwya' Cymru.
Fe fydd Grŵp Llandrillo-Menai yn addysgu 34,000 o fyfyrwyr yn flynyddol.
Y bwriad yw uno'n ffurfiol ym mis Ebrill 2012.
Darparodd Coleg Llandrillo ar gyfer 72,202 o gofrestriadau yn 2010/11 a oedd yn cynrychioli 21,561 o fyfyrwyr.
Mae'r nifer cofrestriadau yn un o'r mwyaf yng Nghymru, gan gynnwys pob lefel o ddarpariaeth o lefel mynediad i addysg uwch.
Ar hyn o bryd mae Coleg Llandrillo Cymru yn cyflogi 1,434 o staff, 567 ohonynt yn llawn-amser.
Yn 2010/11 roedd trosiant y Coleg yn £47 miliwn, gan sicrhau gweddillion gweithredol o £1.5 miliwn.
Straeon perthnasol
- Published
- 10 Rhagfyr 2011
- Published
- 12 Medi 2011