Creu gwefan am y frech farwol
- Cyhoeddwyd

Mae gwefan wedi ei chreu 50 mlynedd ers i'r frech wen ddychwelyd i Gymru.
Yn 1962 cafodd 18 eu lladd yn y Rhondda a Phen-y-bont ar Ogwr a chafodd cystadleuwyr o Forgannwg eu gwahardd rhag cystadlu yn Eisteddfod yr Urdd.
Mae'r newyddiadurwr a'r darlithydd James Stewart wedi cynnwys ei ymchwil ar wefan newydd.
Y nod, meddai, yw gwahodd pobl i adrodd eu straeon am eu profiadau.
"Daeth y clefyd i Gymru oherwydd mewnfudwr o Bacistan, Shuka Mia," meddai James gynhyrchodd raglen i ITV yn 2002.
"Roedd yna epidemig ym Mhacistan ar y pryd.
"Os oedd mewnfudwyr yn diodde ac yn cyrraedd ar y môr, bydden nhw wedi marw oherwydd y frech wen neu mewn cwarantîn.
"Ond ar awyren roedd y dyn hwn wedi cyrraedd o fewn oriau ac aeth yn sâl yng Nghaerdydd.
"Roedd yna banig mawr a chafodd lot o bobl y brechlyn ..."
'Dirgelwch'
O fewn mis roedd y Dr Hodkinson o Ysbyty Dwyrain Morgannwg wedi dal y frech wen er nad oedd wedi bod yn agos at Mr Mia.
"Mae'n bosib ei fod wedi dal y frech pan aeth i bost mortem menyw ifanc o'r Rhondda oedd wedi marw yn yr ysbyty er mae'n dal yn ddirgelwch o ble y byddai hi wedi ei dal," meddai James.
"Ar ôl ei marwolaeth hi cafodd y brechlyn ei roi i filoedd o bobl ac roedd rhai mewn cwarantîn yn eu cartrefi. Bu farw chwech o bobl.
"Roedd pobl o'r Rhondda yn ofn mynd i Gaerdydd rhag ofn bod pobol yn eu hosgoi ..."
Erbyn Mawrth 1962 roedd cleifion yn diodde yn Ysbyty Meddwl Glanrhyd ger Pen-y-bont ar Ogwr.
12 arall
Nyrsys Ysbyty Melin Ifan Ddu ofalodd amdanyn nhw a rhoddwyd y brechlyn i 900,000 o bobl.
Bu farw 12 arall.
"Daeth y frech wen i ben yn y 1970au - un o brif lwyddiannau meddygaeth," meddai James.
"Roedd yn heintus iawn ac yn ffordd ofnadwy o farw."
Mae'r manylion ar wefan smallpox1962.wordpress.com