Cyn esgob wedi marw
- Published
Mae cyn Esgob Tyddewi, Ivor Rees, wedi marw yn ei gartref yn Hwlffordd.
Hunodd Mr Rees ddydd Mercher yn 85 oed yn dilyn salwch.
Cafodd ei eni yn Llanelli a bu'n aelod o'r Llynges Frenhinol yn ystod yr Ail Ryfel Byd.
Bu'n Ddeon Eglwys Gadeiriol Bangor pan oedd y canwr Aled Jones yn aelod o'r côr.
Rheithor
Bydd angladd Mr Rees yn breifat ac fe gynhelir gwasanaeth coffa ar ddyddiad sydd heb ei bennu.
Cafodd ei ordeinio ym 1953 a dechreuodd ei yrfa fel curad yn Sir Benfro.
Ymysg ei blwyfi roedd Abergwaun, Llangathen, Slebets ac Uzmaston, ger Hwlffordd cyn iddo wasanaethu yng ngogledd Cymru.
Bu'n ficer yn Llangollen a rheithor yn Eglwys Gadeiriol Llanelwy cyn iddo gael ei benodi'n Ddeon Eglwys Gadeiriol Bangor.
Dychwelodd i Sir Benfro pan gafodd ei benodi'n Esgob Cynorthwyol Tyddewi.
Cafodd ei benodi'n Esgob Tyddewi ym 1991 a phenderfynodd ymddeol bedair blynedd yn ddiweddarach.