Mynegi barn yn erbyn melinau gwynt

Tyrbinau gwynt Image copyright Getty Images
Image caption Gallai 600 o dyrbinau gwynt gael eu codi yn y canolbarth

Mae ymgyrchwyr yn erbyn melinau gwynt yn y canolbarth yn mynegi eu barn yn y Cynulliad ddydd Iau.

Fe fyddan nhw'n rhoi tystiolaeth i ymchwiliad y Pwyllgor Amgylchedd a Chynaliadwyedd.

Eisoes mae tua 200 o felinau gwynt ym Mhowys ac, yn ôl adroddiadau, gallai 600 arall gael eu codi yno yn y dyfodol.

Hefyd mae pryderon am gynigion i godi rhwydwaith newydd o beilonau trydan yn y sir.

Cyfarfod arbennig

Yn ddiweddarach yn y mis mae Cyngor Powys yn cynnal cyfarfod arbennig i drafod y cynlluniau.

Mae'r cyngor wedi dweud bod effaith bosib adeiladu tyrbinau gwynt a pheilonau trydan wedi achosi llawer o bryder ymysg pobl y sir.

Yn y Cynulliad mae'r pwyllgor, y mae'r Arglwydd Elis-Thomas yn ei gadeirio, yn clywed sylwadau Ymgyrch Diogelu Cymru Wledig, grŵp Maldwyn yn erbyn Peilonau, a Chymdeithas Mynyddoedd Cambria.

Hefyd mae'r bargyfreithiwr, Neville Thomas QC, yn cynnig tystiolaeth ar ran Cynghrair Canolbarth Cymru a Sir Amwythig.

Y disgwyl yw iddo gwestiynu pwrpas cynllun TAN 8 gafodd ei gyflwyno yn 2005, sefydlu saith ardal yng Nghymru a chanoli'r holl dyrbinau gwynt yn y safleoedd hynny.

'Anodd deall'

Mae'r gynghrair wedi dweud: "Mae'n anodd deall pam na chafodd TAN 8 ei ladd cyn gynted ag y cafodd ei eni.

"Os bydd yr anhyblygrwydd yn para yng Nghaerdydd yr unig ganlyniad fydd mynd i'r llys am flynyddoedd."

Bydd ymgyrchwyr yn sôn am gynllun y Grid Cenedlaethol i godi hyd at 120 o beilonau 50 metr o uchder i gario gwifrau trydan 400,000 folt o Gymru i gyffiniau'r Amwythig yn Lloegr.

Fel rhan o'r cynllun byddai angen is-orsaf drydan ar safle 20 erw nail ai ger Aber-miwl, Y Drenewydd, neu yn ardal fwy gwledig Cefn Coch.

Mwy pwerus

Mae'r Grid wedi honni bod angen ceblau mwy pwerus ac is-orsaf drydan i ddelio â'r ynni adnewyddol ar gael am fod llawer mwy o felinau gwynt yn cael eu cynllunio ac wedi cael caniatâd yn barod.

Ond mae Maldwyn yn erbyn y Peilonau yn dweud: "Does dim budd cymunedol i'r bobl sy'n gorfod dioddef ymwthiad is-orsafoedd neu beilonau dur anferth."

Bydd y pwyllgor yn adrodd yn ôl i'r Cynulliad ym mis Mawrth.

Straeon perthnasol

Cysylltiadau Rhyngrwyd

Dyw'r BBC ddim yn gyfrifol am safleoedd rhyngrwyd allanol.