Dileu deddfau yn siomi ymgyrchwyr

Marchnad anifeiliaid Y Fenni Image copyright BBC Wales
Image caption Roedd ymgyrchwyr yn gobeithio y byddai'r deddfau yn diogelu'r farchnad.

Mae dileu deddfau Oes Fictoria yn golygu y gall archfarchnad a llyfrgell gael eu hadeiladu ar safle marchnad anifeiliaid.

Roedd ymgyrchwyr o blaid cadw'r farchnad anifeiliaid ar agor yn gobeithio y byddai deddfau 1858-1871 yn ei diogelu.

Mae Llywodraeth Cymru wedi cytuno i gais y cyngor i ddileu'r deddfau.

Adfywio

Eisoes mae cais cynllunio wedi cael ei ganiatáu i godi archfarchnad Morrisons a llyfrgell gyhoeddus ar y safle.

Dywedodd y cyngor sir, sy'n berchen ar y tir, y byddai'r datblygiad yn helpu adfywio'r dref ac y byddai marchnad anifeiliaid yn cael ei chodi 10 milltir i ffwrdd ger Rhaglan.

Roedd ymgyrchwyr yn gobeithio y byddai'r Gweinidog Llywodraeth Leol, Carl Sargeant, yn gwrthod y cais i ddileu Deddfau Gwella'r Fenni.

Mae'r grŵp ymgyrchu KALM wedi honni bod y mart 150 oed yn denu ffermwyr ac ymwelwyr i siopau a chaffis y dref.

'Priodol'

"Nid yw'r deddfau yn golygu bod angen marchnad ar y safle cyfredol ac nid ydyn nhw chwaith yn gwahardd datblygu'r safle," meddai'r gweinidog.

"Ni allaf gefnogi na gwrthdroi penderfyniad priodol pwyllgor cynllunio'r cyngor pa fodd bynnag cryf yw'r gefnogaeth neu'r gwrthwynebiad.

"Y cyngor fydd yn gorfod cyfiawnhau eu penderfyniadau ynghylch y mater hwn neu faterion eraill."

Mae protestiadau yn erbyn y cynllun wedi denu cannoedd o bobl ac arwyddodd miloedd ddeiseb.

Straeon perthnasol

Cysylltiadau Rhyngrwyd

Dyw'r BBC ddim yn gyfrifol am safleoedd rhyngrwyd allanol.